top of page

Bangor University to host UniBrass’ debut in Wales

Updated: May 30, 2020



For the first time in its history, UniBrass will be hosted in Wales at Bangor University on Saturday 2nd February 2019.

UniBrass, the University Brass Band Championships of Great Britain and Northern Ireland is being organised by current students and alumni of Bangor University supported by the UniBrass Foundation; a charity set up to aid the development of the contest and to encourage students to continue playing in brass bands through university.

“Everything considered, UniBrass is the most enjoyable day out on the UK Brass Band calendar.”

British Bandsman, 2018

The contest will see 21 bands from universities across the UK compete in two sections; the UniBrass Trophy and the UniBrass Shield. Each band will perform an entertaining 20 minute set in the hope to crowned champion by the adjudicators.

UniBrass Chair Sam Hartharn-Evans said “We’re really pleased to be bringing this exciting festival of brass banding to Bangor, and we hope the local community show their support for the event and brass banding at universities by attending the contest, the gala concert and our free public workshop.”

Muhammad Firdaus, VP Societies and Volunteering said “We are incredibly proud of our students for taking the initiative and establishing Bangor University as the first university ever in Wales to host UniBrass. This is an amazing event that we greatly look forward to, and we fully support our students’ tireless efforts in making this event a success. We are certain that UniBrass in Bangor will not only be a memorable time for brass bands from around the nation, but also an excellent way of engaging with the local community.”

There will be a free workshop with musicians from the Corps of Army Music. The workshop is open to brass and percussion players of all ages from Grade 3 upwards from the local community. The workshop will conclude with a performance in Pontio’s Theatr Bryn Terfel during a break in the UniBrass Trophy. If you would like to sign up to take part in the workshop you can sign up here https://goo.gl/forms/rBgR2exHLcfM0hw82

The day will conclude with a Gala Concert from Tredegar Town Band. Tredegar have appeared in BAFTA Award winning film Pride, performed on Britain’s Got Talent and became Band Cymru champions in 2016. The concert will celebrate brass banding, paying homage to the band’s Welsh roots and UniBrass’ debut in Wales. This is a concert not to be missed.

Tickets start from just £10 and are available from pontio.co.uk. With 9 different types of ticket there’s certainly something for everyone including a combined ticket for the whole contest and Gala Concert.



Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru


Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru.

Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.

"Mi fyswn i'n dweud, o'r holl ddigwyddiadau ar gyfer bandiau pres yn ystod y flwyddyn mai UniBrass ydy'r diwrnod dwi'n ei fwynhau fwyaf."

Aelod o un fandiau pres Prydain, 2018

Bydd 21 o fandiau o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn cystadlu yn y gystadleuaeth mewn dwy adran, sef adran Tlws UniBrass ac adran Tarian UniBrass. Bydd pob band yn perfformio set ddiddanol o 20 munud o hyd yn y gobaith o gael eu coroni'n bencampwr gan y beirniaid.

Dywedodd Cadeirydd UniBrass, Sam Hartharn-Evans, "Dan ni'n falch iawn o gael croesawu'r ŵyl bandiau pres gyffrous hon i Fangor ac yn gobeithio y bydd pobl leol yn dangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad ac i fandiau pres mewn prifysgolion drwy ddod i wrando ar y cystadlu, y cyngerdd gala a'r gweithdy sy'n rhad ac am ddim i'r cyhoedd."

Dywedodd Muhammad Firdaus, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli "Dan ni'n andros o falch o'n myfyrwyr am fentro fel hyn. Mae'r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn golygu mai ym Mhrifysgol Bangor y bydd gŵyl UniBrass yn cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed yng Nghymru. Mae o'n ddigwyddiad anhygoel a dan ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy, a dan ni'n cefnogi ymdrechion diflino'r myfyrwyr i wneud yn siŵr y bydd y digwyddiad yma'n llwyddiant. Dan ni'n hyderus y bydd UniBrass ym Mangor nid yn unig yn amser y bydd bandiau pres o bob cwr o Brydain yn ei gofio, ond y bydd hefyd yn ffordd ardderchog o ymwneud â'r gymuned leol."

Cynhelir gweithdy am ddim gyda cherddorion o Gorfflu Cerddoriaeth y Fyddin. Mae'r gweithdy'n agored i chwaraewyr offerynnau pres ac offerynnau taro Gradd 3 ac uwch o bob oed o'r gymuned leol. Daw'r gweithdy i ben gyda pherfformiad yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio yn ystod egwyl yng nghystadleuaeth Tarian UniBrass. Os hoffech gofrestru i gymryd rhan yn y gweithdy, gallwch wneud hynny trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://goo.gl/forms/rBgR2exHLcfM0hw82

Daw'r diwrnod i ben gyda Chyngerdd Gala Band Tredegar. Mae Band Tredegar wedi ymddangos yn y ffilm Pride, a enillodd wobr BAFTA, ac wedi perfformio ar Britain's Got Talent ac wedi ennill pencampwriaeth Band Cymru yn 2016. Bydd y cyngerdd yn dathlu bandiau pres, gan dalu teyrnged i wreiddiau Cymreig y band a dyfodiad UniBrass i Gymru am y tro cyntaf. Mae hwn yn gyngerdd na ddylid ei golli.

Mae'r tocynnau rhataf yn £10 ac ar gael o pontio.co.uk. Mae 9 gwahanol fath o docyn felly, yn sicr, bydd rhywbeth at ddant pawb gan gynnwys tocyn cyfun i'r gystadleuaeth gyfan a'r cyngerdd gala.

41 views

Recent Posts

See All
bottom of page